Y Papur Gwyrdd - gwarchod ein cartref rhyfeddol

Croeso i wefan Y Papur Gwyrdd

Y cylchgrawn deufisol Cymraeg sy’n gyfrwng i newyddion
a syniadau sy’n dod â Chynefin a Byd ynghyd

Y DdaearMenter newydd ydy cylchgrawn annibynnol Y Papur Gwyrdd sy’n yn annog parch at ecoleg naturiol y Ddaear er mwyn ceisio sicrhau ei pharhad fel cartref rhyfeddol i ddynolryw a’i holl drigolion eraill.

Byddwn yn gyfrwng i wybodaeth sy’n ein rhybuddio na allwn, ac na ddylwn, edrych ar y Ddaear fel bin sbwriel i’n llygredd os ydym am adennill a chadw cydbwysedd hanfodol yr amgylchedd.

Wrth wneud hyn, bwriadwn adlewyrchu’r ymdrechion mawr a man i leihau ar ddefnydd ynni, i ddefnyddio ffyrdd newydd o greu ynni adnewyddol, ac o ddefnyddio adnoddau’r Ddaear mewn modd cynhaliol.

Dathlwn fwrlwm yr ail ddarganfyddiad byd-eang o werth cymunedau lleol - yn ysbrydol, yn ddiwylliannol ac economaidd. Bydd Y Papur Gwyrdd, felly, yn cefnogi’r mudiadau hynny sy’n gwrthsefyll corfforaethau rhyngwladol sy’n gosod pwysigrwydd elw yn uwch na lles gwragedd, gwyr a phlant yn eu cymunedau. Byddwn hefyd yn cefnogi’r grwpiau hynny sy’n gweithio’n ddi-flino i amddiffyn hawliau dynol — yn erbyn llywodraethau gormesol, ac yn erbyn pob trais.

Welcome to the Website of Y Papur Gwyrdd (The Green Paper) a bi-monthly Welsh language ecological journal which is a forum for news and ideas bringing together People, Community and Earth. For more information, email us at:


Cysylltiadau Gwerth Y Byd

Adar Lliwgar


AL GORE: Earth in the Balance. Ecology and the Human Spirit

“Pobl ifanc yw un o’n gobeithion mwyaf: nhw fydd yn etifeddu’r ddaear a’r her o adfer ei chydbwysedd - a nhw fydd yn y byw yn ddigon hir i wybod i sicrwydd a fydd y frwydr heddychlon hon o blaid y blaned yn cael ei hennill o’r diwedd ... Yr her i ni yn awr - her sy’n galw ar i bawb ohonom gael ein haddysgu a chodi’n cyd-ymwybod i raddfa blanedol - yw adfer ac achub y ddaear hyd yn oed wrth inni ychwanegu mwy o aelodau at y teulu dynol. Fydd hyn ddim yn hawdd neu’n syml; fe fydd troeon trwstan, a gwrthwynebiad ffyrnig gan rheiny sy’n elwa o lygredd.”


Cynnwys Y Papur Gwyrdd

  • Cefnogi’r ymgyrch byd eang i achub yr amgylchedd
  • Bod yn gyfrwng i esbonio’r peryglon sy’n wynebu’r blaned
  • Trafod economiau gwyrdd newydd cynaliadwy
  • Adleisio bywiogrwydd cymunedol ymhob man
  • Dathlu mentrau lleol yng Nghymru a led-led y byd
  • Hybu ffordd o fyw ‘araf’, gymunedol
  • Adlewyrchu amrywiaeth diwylliannol ac ieithyddol
  • Mynnu parch at hawliau dynol a heddwch rhwng pobloedd
Arth Polar


Sut i archebu Y Papur Gwyrdd

Byddwn yn falch i chi archebu Y Papur Gwyrdd trwy eich siop leol.
Rhowch y wybodaeth ganlynol i’r perchennog, ac fe wnaiff ef neu hi y gweddill ar eich rhan am £1 y rhifyn

  Enw’r Cylchgrawn: Y Papur Gwyrdd (ISSN 1755-3504)
Golygydd: Hywel Davies
Cyhoeddwyr: Y Papur Gwyrdd Cyf
Cyfeiriad: 217 Vicarage Road, Treforys, Abertawe SA6 6DX
Ebost:
Ffôn: 01792 798162
Gwefan: www.ypapurgwyrdd.com

Os byddai’n well gyda chi dderbyn eich copi o’r Papur Gwyrdd oddiwrthym trwy’r post, danfonwch gais atom gyda siec neu archeb post am £6.00 am 6 rhifyn o’r cylchgrawn gan nodi’r manylion isod:

ENW …….…………………….…………………………………
CYFEIRIAD ……………………………………………………...
FFÔN / EBOST …….………………....……………………….

Danfonwch trwy’r post at: Y Papur Gwyrdd Cyf, 217 Vicarage Road, Treforys, Abertawe SA6 6DX




Y Papur Gwyrdd - Y Cylchgrawn Cymraeg sy'n gyfrwng i newyddion a syniadau sy'n dod a Chynefin a Byd ynghyd
Hawlfraint: Y Papur Gwyrdd Cyf. Dylunio: Cymru 1 - www.cymru1.net